Os bydd arnoch eisiau bwyd rhwng prydau, ceisiwch osgoi bwyta byrbrydau sy’n uchel mewn braster a/neu siwgr, fel melysion, bisgedi, creision neu siocled. Yn lle hynny, dewiswch rywbeth iachach, megis:
- brechdanau bach neu fara pita gyda chaws wedi’i gratio, ham heb lawer o fraster, stwnsh tiwna, eog neu sardîns, gyda salad
- llysiau salad, megis moron, seleri neu giwcymbr
- iogwrt ffrwythau braster isel sy’n cynnwys llai o siwgr, iogwrt plaen neu fromage frais, gyda ffrwythau
- hwmws gyda bara pita blawd cyflawn neu ffyn llysiau
- bricyll, ffigys neu brŵns sy’n barod i’w bwyta
- cawl llysiau a ffa
- powlen fach o rawnfwyd brecwast heb ei felysu, neu uwd, gyda llaeth
- diodydd llaethog
- ffrwythau ffres
- ffa pob ar dost neu daten bob fach
- tafell fechan o dorth frag, cacen de sy’n cynnwys ffrwythau neu dafell o fara ffrwythau wedi’i thostio
Wrth ddewis byrbrydau, gallwch ddefnyddio labeli bwyd i’ch helpu. Dysgwch fwy am labeli bwyd, gan gynnwys sut y gall y cod “gwyrdd, ambr, coch” eich helpu i wneud dewisiadau iachach ar fyrder. Cliciwch am fwy o wybodaeth am labeli bwyd yma (agor mewn dolen newydd).