Neidio i'r prif gynnwy

Bwyd â llawer o startsh (carbohydradau) yn ystod beichiogrwydd

Mae bwydydd â llawer o startsh yn ffynhonnell bwysig o egni, rhai fitaminau a ffeibr, ac maent yn eich helpu i deimlo’n llawn heb fwyta gormod o galorïau. Mae’r bwydydd hyn yn cynnwys bara, tatws, grawnfwyd brecwast, reis, pasta, nwdls, indrawn, miled, ceirch, iamau a grawn corn. Os byddwch yn cael sglodion, dewiswch sglodion ffwrn sy’n is o ran braster a halen.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am bwydydd â llawer o startsh (agor mewn dolen newydd)

Dylai’r bwydydd hyn gyfrif am ychydig dros un rhan o dair o’r bwyd y byddwch yn ei fwyta. Yn hytrach na bwyd â llawer o startsh wedi’i brosesu (gwyn), dewiswch opsiynau grawn cyflawn neu opsiynau sy’n cynnwys mwy o ffeibr, megis pasta gwenith cyflawn, reis brown, neu datws yn eu crwyn.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: