Mae deiet iach yn rhan bwysig o fyw yn iach ar unrhyw adeg ond mae’n arbennig o bwysig os ydych yn feichiog neu’n ceisio beichiogi. Bydd bwyta’n iach yn ystod beichiogrwydd yn helpu eich babi i ddatblygu a thyfu.
Nid oes angen dilyn deiet arbennig, ond mae’n bwysig bwyta amrywiaeth o wahanol fwydydd bob dydd er mwyn cael y cydbwysedd iawn o’r maethynnau y bydd eu hangen arnoch chi a’ch babi.
Y ffordd orau o gael fitaminau a mwynau yw trwy’r bwyd yr ydych yn ei fwyta, ond pan fyddwch yn feichiog mae angen i chi gymryd atchwanegiad asid ffolig hefyd, er mwyn sicrhau eich bod yn cael popeth y mae’i angen arnoch.