Neidio i'r prif gynnwy

Brechlyn ar gyfer COVID-19

Mae'r brechlyn COVID-19 yn cael ei argymell yn gryf yn ystod beichiogrwydd gan fod menywod beichiog/person sy’n geni mewn mwy o berygl o gael coronafeirws.

Mae rhai merched beichiog/person sy’n geni wedi mynd yn ddifrifol wael ac angen triniaeth ysbyty. Mae menywod beichiog/pobl sy’n geni â choronafeirws yn wynebu risg uwch o gael eu derbyn i ofal dwys na menywod/person sy’n geni o’r un oedran nad ydynt yn feichiog. Os byddwch chi'n cael coronafirws gyda symptomau yn ystod beichiogrwydd, mae'n deirgwaith yn fwy tebygol y bydd eich babi'n cael ei eni'n gynnar. 

Mae'n bwysig bod menywod beichiog/pobl sy’n geni yn cael yr holl ddosau a argymhellir o'r brechlyn COVID-19 cyn gynted â phosibl. Mae brechlynnau COVID ar gael yn ystod tymor y ffliw. Gellir rhoi'r brechlyn ar unrhyw adeg yn ystod beichiogrwydd. Mae adroddiadau o bob cwr o'r byd yn dangos bod brechlynnau Pfizer a Moderna yn ddiogel i'w defnyddio yn ystod beichiogrwydd. 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: