Gall defnyddio cyffuriau anghyfreithlon neu hamdden, er enghraifft canabis, canabis synthetig (a elwir yn sbeis), cocên a chyffuriau eraill megis ecstasi, cetamin ac amffetaminau, gyfrannu at broblemau ffrwythlondeb. Mae hyn yn golygu, os ydych chi neu eich partner yn cymryd cyffuriau, efallai y byddwch yn ei chael yn anoddach beichiogi. Gall cyffuriau anghyfreithlon neu hamdden hefyd achosi problemau difrifol yn ystod beichiogrwydd.
Canabis yw'r cyffur a ddefnyddir amlaf. Yn achos menywod, gall defnydd trwm o ganabis achosi camreolaeth hormonau (hormonau anghytbwys), felly mae menywod sy'n ei ddefnyddio yn debygol o gael problemau wrth feichiogi, o gymharu â'r rhai nad ydynt yn ei ddefnyddio.
Gall cyffuriau cyfreithlon eraill, megis diazepam ac opiadau lladd poen (p'un a ydynt ar bresgripsiwn ai peidio) achosi problemau hefyd. Os ydych yn ceisio beichiogi mae'n bwysig siarad â'ch meddyg neu eich fferyllydd cyn cymryd unrhyw feddyginiaethau.