Neidio i'r prif gynnwy

A oes rhaid i mi roi'r gorau i gymryd cyffuriau cyn i mi feichiogi?

Oes. Os ydych yn cymryd unrhyw gyffuriau anghyfreithlon neu hamdden, y peth gorau y gallwch ei wneud drosoch eich hun a'ch baban yw rhoi'r gorau i wneud hynny.

Efallai y bydd rhai menywod yn gallu rhoi'r gorau i gymryd cyffuriau heb gymorth. Mae’n bosibl y bydd menywod eraill yn ei chael yn anoddach oherwydd problemau eraill, er enghraifft problemau iechyd meddwl, diffyg cymorth teuluol, neu broblemau hirdymor, megis digartrefedd.

Os oes yna unrhyw reswm pam eich bod yn ei chael yn anodd rhoi'r gorau i gymryd cyffuriau anghyfreithlon neu hamdden, a'ch bod am ddechrau ceisio beichiogi, mae'n bwysig eich bod yn cael cyngor a chymorth. Gall eich meddyg teulu eich atgyfeirio at wasanaeth arbenigol neu gallwch ddod o hyd i wasanaethau ar-lein sy'n addas i chi.

Mae'n well parhau i ddefnyddio dulliau atal cenhedlu nes eich bod wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio cyffuriau. Gall eich meddyg roi cyngor i chi ar hyn os bydd arnoch ei angen.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: