Ar draws y tair sir, mae gennym wasanaethau gwahanol ar gael yn yr ysbytai a restrir isod. Rydym yn cynnig genedigaethau yn y cartref ledled y tair sir, sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Yn Ysbyty Glangwili, mae gennym hefyd uned dan arweiniad bydwragedd ar gyfer menywod sy'n cael beichiogrwydd didrafferth. Mae gennym hefyd ward esgor dan arweiniad meddygon ar gyfer menywod y mae arnynt angen gofal ychwanegol gan ein meddygon a'n bydwragedd. Os bydd eich baban yn cael ei eni ar ôl 32 wythnos a bod arno angen gofal ychwanegol, gallwn ofalu amdano mewn Uned Gofal Arbennig i Fabanod (SCBU).
Cyfeiriad: Ward Dinefwr, Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Heol Dolgwili, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin SA31 2AF
Ffôn y Ward Cynenedigol: (01267) 221735
Ffôn yr Uned dan Arweiniad Meddygon Ymgynghorol: (01267) 227591
Ffôn yr Uned dan Arweiniad Bydwragedd: (01267) 248640
Ffôn Ward Esgor y Meddygon Ymgynghorol: (01267) 227825
Yn Ysbyty Bronglais, mae gennym uned dan arweiniad bydwragedd ar gyfer menywod sy'n cael beichiogrwydd didrafferth. Mae gennym hefyd ward esgor dan arweiniad meddygon ar gyfer menywod y mae arnynt angen gofal ychwanegol gan ein meddygon a'n bydwragedd.
Mae'n bosibl y bydd yna adegau pan na allwn ofalu amdanoch chi neu eich baban yn Aberystwyth a bydd angen i chi gael eich baban yng Nghaerfyrddin. Gallai rhai o’r rhesymau dros hyn fod:
Os bydd eich baban yn cael ei eni a bod arno angen gofal ychwanegol, mae gennym ystafell newyddenedigol lle gallwn fynd â’ch baban nes y gellir mynd ag ef i uned fwy arbenigol.
Cyfeiriad: Ward Gwenllian, Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Ffordd Caradog, Aberystwyth, Ceredigion SY23 1ER
Ffôn: (01970) 635633
Yn Ysbyty Llwynhelyg, mae gennym uned dan arweiniad bydwragedd ar gyfer menywod sy’n cael beichiogrwydd didrafferth. Mae gennym glinigau cynenedigol dan arweiniad meddygon ar gyfer y menywod hynny y mae arnynt angen gofal ychwanegol a byddant yn cael eu babanod yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin.
Cyfeiriad: Uned Dan Arweiniad Bydwragedd, Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, Heol Abergwaun, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 2PZ
Ffôn: (01437) 773306