Neidio i'r prif gynnwy

Amseroedd ymweld mamolaeth

Baban newydd enedig yn gorwedd ar frest y fam

Diolch i chi am eich cefnogaeth a'ch amynedd tra byddwn wedi addasu mynediad ac ymweld â'n gwasanaethau mamolaeth. Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod bellach mewn sefyllfa i wneud newidiadau i fynediad partneriaid geni ac ymwelwyr â’n gwasanaethau mamolaeth:

  • gall un partner geni fynychu rhwng 10.00am - 8.30pm (sylwer, ar unedau dan arweiniad bydwragedd a wardiau geni, y caniateir partneriaid geni yn ystod y cyfnod geni gweithredol waeth beth fo'r amser o'r dydd);
  • mae ymweliadau ychwanegol ar gael o 2.00pm - 4.00pm a 6.00pm - 8.00pm;
  • uchafswm nifer yr ymwelwyr fesul claf yw dau;
  • bydd unrhyw blant sy'n ymweld yn ffurfio rhan o u chafswm o ddau ymwelydd fesul gwely. Mae’n rhaid trafod unrhyw anawsterau mewn perthynas â hyn a’u trefnu gyda phrif nyrs y ward a defnyddio disgresiwn yn unigol (e.e. os oes brawd neu chwaer ifanc neu ddau frawd neu chwaer ifanc, gall yr ail oedolyn sy’n ymweld â nhw ddod gyda nhw);
  • rhaid i blant sy'n ymweld fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol sy'n ymweld bob amser.
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: