Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r gwasanaeth Myfyrio ar Enedigaeth?

Mae’r gwasanaeth myfyrio ar enedigaeth ar gael i unrhyw un sydd wedi cael babi yn Hywel Dda ac mae’n rhoi cyfle i chi drafod eich profiad geni, tra’n gobeithio rhoi esboniadau a sicrwydd am eich gofal.

Gallwn fynd trwy unrhyw ran o'r gofal mamolaeth a gawsoch a cheisio ateb pob un o'ch cwestiynau. Efallai y byddwch am siarad am linell amser eich genedigaeth, neu am ddeall mwy am y penderfyniadau a wnaed. Efallai y byddwch am siarad am eich beichiogrwydd a'ch profiad geni gyda gweithiwr iechyd proffesiynol.

Beth bynnag fo'ch rheswm, bydd bydwraig brofiadol yn cynnig cymorth ac yn trafod unrhyw bryderon.

Nid oes amser cywir nac anghywir i ofyn am y gwasanaeth, felly cysylltwch â ni os ydych yn meddwl yr hoffech apwyntiad. Gallwch ddod â'ch partner neu berson cymorth arall gyda chi os dymunwch. Bydd yn apwyntiad untro ac fel arfer bydd yn para rhwng awr a dwy awr.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: