Gallwn gynnig apwyntiad i chi gydag obstetrydd neu fydwraig brofiadol ar ddiwrnod/amser sy'n gyfleus i chi. Nid y fydwraig hon o reidrwydd fydd y fydwraig a oedd yn gofalu amdanoch yn ystod eich esgor.
- Bydd y fydwraig/obstetrydd wedi gweld eich cofnodion fel bod ganddynt hanes llawn o'r hyn a ddigwyddodd yn ystod eich esgor a'ch genedigaeth.
- Byddant yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am eich profiad geni ac yn gweithio drwy unrhyw faterion, meddyliau neu deimladau a allai fod yn peri pryder i chi.
- Gyda'ch caniatâd, gall y fydwraig/obstetrydd eich cyfeirio at wasanaethau eraill os teimlir y byddai o fudd i chi. Neu gallant drefnu apwyntiad gyda'r obstetrydd/anaesthetydd/pediatregydd fel y bo'n briodol.