Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd meddwl yn y cyfnod ôl-enedigol

Mae hi’n gyffredin i deimlo'n isel ac yn ddagreuol wrth i'ch hormonau ail-gydbwyso a'ch bywyd newid. Mae addasu i ofalu am fabi newydd, poen/anesmwythder, colli cwsg a newidiadau hormonaidd i gyd yn effeithio ar eich emosiynau. Gelwir hwyliau isel tua 3 diwrnod ar ôl cael eich babi yn ‘baby blues’. Gwnewch yn siŵr eich bod yn siarad â rhywun agos a cheisiwch gymorth os nad yw eich hwyliau'n gwella 10 diwrnod ar ôl genedigaeth.

Mae iechyd meddwl eich partner geni yn bwysig hefyd oherwydd bod profiadau geni yn dylanwadu arnynt.

Os oes angen cymorth ar y naill neu'r llall, cysylltwch â'ch bydwraig, meddyg teulu neu ymwelydd iechyd.

 

Mums Matter

Mae Mums Matter yn wasanaeth i famau newydd sy’n cael trafferth â phroblemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol yn ystod y cyfnod amenedigol ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae Mums Matter yn wasanaeth ymyrraeth gynnar, sy'n cynnig amgylchedd diogel, cefnogol i gwrdd â mamau eraill sydd â phrofiadau tebyg. Mae'n rhoi cyfle i drafod materion ac yn cynnig syniadau defnyddiol y gallant eu defnyddio i helpu i deimlo'n well. Mae annog cefnogaeth barhaus gan gymheiriaid hefyd yn rhan o'r cwrs. Mae'r cwrs wyth wythnos hefyd yn cynnwys un sesiwn ar gyfer partneriaid neu aelodau cefnogol o'r teulu.

Mae'r cyfnod amenedigol yn cyfeirio at unrhyw amser o feichiogi hyd at flwyddyn ar ôl i chi roi genedigaeth. Felly, mae'r gwasanaeth hwn wedi'i gynllunio ar gyfer mamau beichiog a'r rhai sydd â babanod a phlant bach.

Gallwch gael eich cyfeirio at y gwasanaeth hwn trwy weithwyr iechyd proffesiynol, neu os oes gennych ddiddordeb gallwch hunan-atgyfeirio. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â mums@pcmind.org.uk neu ffoniwch 07494014933.

Ewch i Mums Matter, Mind Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro am fwy o wybodaeth - Saesneg yn unig (agor mewn dolen newydd)

 

Dad Matters

Nod prosiect Dad Matters Cymru yw helpu tadau i gael profiadau cadarnhaol fel rhieni yn ystod beichiogrwydd a’r blynyddoedd cynnar a’u cefnogi gyda gorbryder, straen a phroblemau iechyd meddwl.

Rydyn ni eisiau sicrhau bod tadau yn gwybod pa mor bwysig ydyn nhw, sut i gael cymorth pan fydd ei angen arnyn nhw a pham y gall fod yn hanfodol i ddatblygiad eu babi.

Rydym yn anelu at:

  • helpu tadau i gael profiadau cadarnhaol fel rhieni yn ystod beichiogrwydd a blynyddoedd cynnar;
  • cefnogi tadau gyda'u lles a'u hiechyd meddwl;
  • annog tadau i gymryd rhan mewn gwasanaethau sydd wedi’u targedu’n draddodiadol at famau;
  • darparu cefnogaeth cyfoedion i dadau gan dadau.

Mae ein cymorth yn rhoi fforwm i dadau rannu eu profiadau a’u pryderon a chael arweiniad a chymorth ar sut i lywio’r cyfnod hollbwysig hwn o’u bywyd, yn ogystal â chyfeirio at sefydliadau a gwasanaethau a all eu cefnogi orau.

Arweinir y gefnogaeth gan Gydlynydd Dad Matters a gwirfoddolwyr o'r enw “Dad Champions”. Rydym yn rhan o Dad Matters UK ac yn perthyn i rwydwaith mawr sy’n cefnogi tadau’n llwyddiannus o fewn Home-Starts lleol eraill ledled y DU.

Ewch i Dad Matters am fwy o wybodaeth - Saesneg yn unig (agor mewn dolen newydd)

I gael rhagor o wybodaeth am iechyd meddwl, ewch i GIG Cymru gan clicio yma am lwybrau i fenywod a theuluoedd (agor mewn dolen newydd) a chliciwch yma am daflenni cymorth a chyngor (agor mewn dolen newydd).

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: