Mae'r Gwasanaeth Cymorth Integredig i Deuluoedd yn fenter gan Lywodraeth Cymru er mwyn darparu cymorth i deuluoedd y mae eu bywydau yn cael eu heffeithio gan arferion camddefnyddio alcohol neu gyffuriau rhieni.
Darparir y Gwasanaeth yn lleol gan dimau amlddisgyblaethol ac aml-asiantaeth, y byddant yn darparu ymyriadau ar sail tystiolaeth am amser cyfyngedig, ac y mae modd iddynt ymateb i anghenion y teulu cyfan. Yn Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, ceir 4 Tîm Integredig Cymorth i Deuluoedd, wedi'u lleoli yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.
Mae pob Tîm Integredig Cymorth i deuluoedd yn dwyn ynghyd weithwyr proffesiynol medrus iawn, o ofal cymdeithasol a gofal iechyd, sydd â phrofiad arbenigol i weithio'n uniongyrchol gyda'r teuluoedd a atgyfeiriwyd. Cydnabyddir bod rhai teuluoedd yn aml yn wynebu sawl anfantais sy'n gofyn am gefnogaeth arbenigol a dwys iawn. Gall y Timau Cymorth Integredig i Deuluoedd gynnwys gweithwyr cymdeithasol, nyrsys iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau, ymwelwyr iechyd, ac arbenigwyr ymyrraeth iechyd / gofal cymdeithasol, a rheolir y Tîm gan arweinydd tîm / gweithiwr cymdeithasol ymgynghorol.
Mae'r Tîm Cymorth Integredig i Deuluoedd yn gweithio gyda theuluoedd y mae camddefnyddio sylweddau rhieni yn effeithio arnynt lle mae pryderon ynghylch gofal a lles eu plant.
Mae'r timau hefyd yn gweithio gyda gwasanaethau ac asiantaethau cymorth teulu eraill i gynorthwyo rhieni i barhau i wneud newidiadau cadarnhaol sy'n amddiffyn plant sy'n agored i niwed er budd y teulu.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth neu os oes gennych unrhyw adborth ynghylch y Tîm Cymorth Integredig i Deuluoedd, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni:
Ffôn: 01554 742450
Ffôn:01545 572616
Ffôn: 01437 775700
Ffôn: 01597 827325
Ffôn: 01269 833325
(Os yw'r peiriant ateb ymlaen, gadewch neges - bydd galwadau'n cael eu gwirio'n rheolaidd)