Neidio i'r prif gynnwy

Yn eich cynnwys mewn penderfyniadau

Byddwn bob amser yn eich diweddaru ac yn eich cynnwys mewn penderfyniadau am eich gwasanaethau iechyd a gofal, a byddwn yn ystyried eich dymuniadau a’ch anghenion.

 

Beth mae hyn yn ei olygu i chi?

  • Byddwn yn cyfathrebu’n glir ac agored gyda chi am eich gofal a’ch triniaeth, a hynny’n amserol;
  • Os oes rhaid i chi aros i fynd i ysbyty neu i ddefnyddio gwasanaethau ar gyfer eich triniaeth, byddwn yn dweud wrthych ba mor hir y mae’n debygol y bydd yn rhaid i chi aros;
  • Ni fyddwn yn gwneud penderfyniadau am eich gofal a’ch triniaeth heb eich cynnwys chi;
  • Byddwn yn dweud wrthych beth fydd y gofal a’r driniaeth arfaethedig yn ei olygu, gan gynnwys risgiau a buddion, a byddwn yn dweud wrthych beth all ddigwydd os na chewch y driniaeth;
  • Byddwn yn eich cefnogi i gymryd rhan mewn trafodaethau a phenderfyniadau am eich gofal a’ch triniaeth, ac yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i’ch helpu i wneud penderfyniadau am y gofal a’r driniaeth sydd ar gael;
  • Byddwn yn eich annog i ofyn cwestiynau am y cynllun o ran gofal a thriniaeth. Gallwch ofyn am ail farn ar unrhyw adeg cyn i chi wneud penderfyniad;
  • Os na allwch wneud penderfyniad drosoch eich hun, bydd staff sy'n gwneud penderfyniadau ar eich rhan yn ystyried beth sydd o’r budd gorau i chi. Byddant yn ystyried:
    • Yr opsiwn clinigol gorau;
    • Beth rydych chi wedi'i ddweud yn y gorffennol am sut rydych chi am gael eich trin. Gall hyn fod ar ffurf dogfen fel Cyfarwyddeb Ymlaen Llaw neu lythyr o ddymuniadau (datganiad ysgrifenedig am driniaeth feddygol pe na bai'r person yn gallu cyfathrebu â'r meddyg);
    • Barn eraill fel rhiant, gwarcheidwad, neu berson arall sydd â chyfrifoldeb amdanoch os ydych yn blentyn;
    • Barn unrhyw un sydd ag awdurdod cyfreithiol i wneud penderfyniad ar eich rhan.
  • Nid oes rhaid i chi dderbyn y driniaeth, yr archwiliad neu'r prawf a gynigir i chi.
  • Byddwn yn dweud wrthych beth yw enwau'r staff sy'n gyfrifol am eich gofal a sut i gysylltu â nhw os bydd angen.
  • Byddwn yn dweud wrthych am y cymorth sydd ar gael gan y GIG neu’r gwasanaethau perthnasol eraill yn y gymuned sy’n cael eu darparu gan y sector gwirfoddol neu sefydliadau eraill.

 

Ffyrdd y gallwch ein helpu

  • Bod yn agored ac yn onest gyda ni yn eich cyfathrebiadau fel y gallwn, gyda'n gilydd, wneud y penderfyniadau cywir i ddiwallu eich anghenion;
  • Cymryd rhan mewn trafodaethau a phenderfyniadau am eich gofal a'ch triniaeth;
  • Dweud wrthym os oes angen mwy o amser arnoch i ystyried yr opsiynau, neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch i'ch helpu i benderfynu;
  • Dweud wrth aelod o staff os nad ydych yn deall y wybodaeth a roddwn i chi;
  • Rhoi gwybod i ni os oes angen cymorth arnoch gan aelodau o'ch teulu, gofalwyr neu eiriolwyr i'ch helpu i wneud penderfyniadau am eich gofal iechyd;
  • Dweud wrthym am unrhyw newidiadau yn eich iechyd fel bod gennym yr holl wybodaeth sydd ei hangen i wneud penderfyniadau am eich gofal a'ch triniaeth;
  • Dweud wrthym, ynghyd â'ch meddyg teulu, deintydd, optegydd neu unrhyw glinig yr ydych yn ei fynychu, am unrhyw newidiadau i'ch cyfeiriad, rhif ffôn/rhif ffôn symudol neu e-bost fel y gallwn gysylltu â chi yn hawdd ynglŷn â'ch triniaeth neu apwyntiadau.
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: