Neidio i'r prif gynnwy

Eich trin ag urddas a pharch

Byddwn bob amser yn eich trin ag urddas, parch a charedigrwydd.

 

Beth mae hyn yn ei olygu i mi?

  • Bydd ein staff yn cyflwyno eu hunain, yn gwisgo bathodynnau adnabod, ac yn eich cyfarch mewn modd cynnes, cyfeillgar a charedig;
  • Byddwn yn agored ac yn onest yn ein holl gyfathrebiadau;
  • Byddwn yn gwrando arnoch ac yn ystyried eich anghenion a'ch dymuniadau ac yn gweithredu arnynt fel eich bod yn derbyn y gofal cywir ar gyfer eich anghenion unigol;
  • Byddwn yn eich trin yn deg ac yn gyfartal, waeth beth fo'ch oed, anabledd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhyw/mynegiant rhyw, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred (gan gynnwys dim cred);
  •   Byddwn yn parchu eich hawl i breifatrwydd.

 

Ffyrdd y gallwch ein helpu

  • Dweud wrth staff am eich dewisiadau, anghenion a dymuniadau fel y gallwn weithredu arnynt a gwneud nodyn ar eich cofnod gofal;
  • Trin ein staff ag urddas a pharch. Gall ymddygiad ymosodol neu drais gan gynnwys cam-drin ysgrifenedig neu fygythiadau tuag at ein staff, cleifion eraill neu eu teuluoedd/gofalwyr/ffrindiau arwain at wrthod mynediad i chi at ein gwasanaethau;
  • Trin staff, cleifion eraill a'u teulu a'u ffrindiau yn gyfartal ac yn deg, waeth beth fo'u hil, oed, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhyw/mynegiant rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd/mamolaeth, crefydd neu gred;
  • Parchu preifatrwydd cleifion eraill.
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: