Mae’r Siarter hon yn dweud wrthych beth y gallwch ei ddisgwyl pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau ac yn derbyn gofal. Rydym am i'ch profiad o ddefnyddio ein gwasanaethau fod yn gadarnhaol bob tro. Yn ein cynllun ar gyfer gwella gwasanaethau iechyd (Strategaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach) rydym yn nodi ein nod i bawb yn ein cymunedau fyw bywydau iach a llawen ac rydym yn addo darparu gwasanaethau diogel, sy’n hawdd eu defnyddio.
Cliciwch yma i ymweld â thudalen Canolbarth a gorllewin iachach (agor mewn dolen newydd).
Gyda'n gilydd rydym yn adeiladu lleoedd caredig ac iach i fyw a gweithio ynddynt yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Mae’r Siarter yn cyd-fynd â chenhadaeth ein Bwrdd Iechyd a’n chwe amcan strategol:
Y ffordd bwysicaf y gallwn wneud i hyn ddigwydd yw trwy gynnwys pobl a'n cymunedau. Gwyddom fod profiad da – cael eich clywed, eich parchu, eich deall, a chael eich cynnwys yn llawn yn eich gofal iechyd – yn dod â gwelliannau mewn iechyd a llesiant.
Mae unigolion eisoes wedi dweud wrthym am yr enghreifftiau niferus o ofal rhagorol gan ein staff, ond nid yw hyn yn wir i bawb, bob amser. Drwy wrando ar yr hyn a ddywedwch ynghylch derbyn gwasanaeth, a deall eich safbwynt, gallwn wneud gwelliannau i'ch gofal a'ch triniaeth.
Rydyn ni'n gwybod bod rhai pobl yn poeni am roi gwybod am brofiad gwael ac efallai'n poeni bod hyn yn cael effaith ar eu triniaeth neu ofal. Rydym yn croesawu unrhyw adborth ac rydym yn eich annog i'w rannu gyda ni fel y gallwn unioni pethau.
Rydym wedi darparu mwy o wybodaeth am yr addewidion i egluro beth y gallwch ei ddisgwyl gan ein staff a’n gwasanaethau. Rydym hefyd wedi awgrymu sut y gallwch ein helpu i ddiwallu eich anghenion unigol a darparu gofal gwell.
Rydym wedi datblygu’r Siarter hon gyda chymorth ein cleifion, pobl, cymunedau a staff. Fe wnaethon nhw ddweud wrthym ni am yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw wrth dderbyn gofal iechyd a beth fyddai'n creu profiad da, bob amser. Mae hyn wedi ein helpu i wneud nifer o addewidion rydyn ni’n eu galw’n ‘brofiadau bob amser’ – y rhannau hynny o’r gofal rydych chi’n eu derbyn a ddylai ddigwydd bob amser.
Byddwn bob amser:
Mae gennym sawl ffordd o wirio bod y Siarter hon yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i brofiadau pobl a chymunedau.
Un o'r ffyrdd pwysicaf y byddwn yn gwneud hyn yw drwy wrando ar eich adborth am eich profiad o'n gwasanaethau. Gallwch roi adborth mewn nifer o ffyrdd: ymatebion arolwg, canmoliaeth a chwynion, trwy ein gwasanaeth cefnogi cleifion, ar wardiau, trafodaethau mewn apwyntiadau, a straeon gan gleifion, eu hanwyliaid a staff.
Rydym eisoes yn casglu llawer o wybodaeth i'n helpu i wella ansawdd ein gwasanaethau. Byddwn yn mesur y ‘profiadau bob amser’ yn rheolaidd i weld pa mor dda yr ydym yn gwneud ac yn adrodd ar y rhain er mwyn ceisio gwelliannau’n barhaus lle bo angen.
Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chasglu a'i defnyddio gan wasanaethau unigol ond hefyd yn cael ei hadolygu gan Aelodau’r Bwrdd. Bydd y wybodaeth hon yn helpu aelodau'r bwrdd i adnabod a rhannu arfer da a nodi meysydd i'w gwella.
Byddwn yn rhannu ein cynnydd gyda chi ar ein gwefan, drwy ein Bwrdd Cyhoeddus ac yn arddangos gwybodaeth am ein gwelliannau ledled ein hysbytai a'n hardaloedd cymunedol ar ein hysbysfyrddau.
*Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gofal a thriniaeth y GIG i boblogaethau Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
*Mae ‘gofal a thriniaeth y GIG’ yn cyfeirio at unrhyw wasanaethau a ddarperir neu a gomisiynir (a drefnir) gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a’i staff gan gynnwys ysbytai, gwasanaethau cymunedol, gwasanaethau iechyd meddwl, gwasanaethau anabledd dysgu. Mae hyn hefyd yn cynnwys meddygon teulu, deintyddion, optegwyr a fferyllwyr (gwasanaethau gofal sylfaenol).
Pan fyddwn yn dweud ‘pobl’ a ‘chymunedau’ rydym yn golygu: