Mae ansawdd yn gyrru popeth a wnawn ac i ni barhau i wella, hoffem wybod am eich profiad diweddar o ddefnyddio ein gwasanaethau.
Gallwch wneud hyn trwy gysylltu â'n gwasanaethau cymorth i gleifion:
Rhif Ffôn: 0300 0200 159
E-bost: hdhb.patientsupportservices@wales.nhs.uk
Ar-lein: Defnyddio ein ffurflen adborth (agor mewn dolen newydd)
Post: Rhadbost @ Hywel Dda
Ein nod yw darparu gwasanaeth o'r ansawdd gorau i blant a phobl ifanc a'u teuluoedd. Mae'n bwysig bod plant a phobl ifanc yn cael dweud eu dweud am eu hamser yn yr ysbyty.
Mae casglu sylwadau a meddyliau yn bwysig iawn i'n helpu i gyflawni'r nod hwnnw. Mae gennym dri holiadur ar gael:
Datganiad Preifatrwydd - Efallai y bydd y Tîm Profiad Cleifion yn casglu ac yn storio eich gwybodaeth yn unol â deddfwriaeth genedlaethol ar ddiogelu data y GIG. Rydyn ni'n cadw eich gwybodaeth i fonitro a chael adborth ar y gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu i chi i nodi meysydd i'w gwella. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei chasglu gennym ni trwy ystod o ddulliau - mae mwy o wybodaeth ar ein Datganiad Preifatrwydd yma (agor mewn dolen newydd)