Rydym yn gwneud diagnosis, yn trin ac yn cefnogi cleifion â Chlefyd Interstitiaidd yr Ysgyfaint (ILD). Mae diagnosis cywir a chynnar yn bwysig er mwyn sicrhau y rheolir eich cyflwr a'ch symptomau yn y ffordd orau bosibl. Rydym yn darparu clinigau dan arweiniad Meddygon Ymgynghorol a Nyrsys ar draws Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.
Rydym hefyd yn cynnig cymorth dros y ffôn ac atgyfeiriadau i dimau amlddisgyblaethol ehangach.