Neidio i'r prif gynnwy

Gofal Critigol

Mae'r Uned Gofal Critigol yn ward sydd â staff a chyfarpar arbennig lle caiff cleifion eu monitro'n agos. Gall cleifion fod â chyflwr sy'n bygwth bywyd neu'n cael eu derbyn ar ôl cael llawdriniaeth fawr. Weithiau gellid galw uned gofal critigol yn uned gofal dwys/uned dibyniaeth uchel (ICU/HDU).

Mae angen triniaeth arbenigol ar y rhan fwyaf o gleifion sy'n cael eu derbyn i'r ICU oherwydd nad yw un neu fwy o organau'r corff yn gweithio'n iawn. Gall rhai cleifion gael eu nyrsio ar sail un-i-un nes bod eu cyflwr yn gwella.

Mae gennym welyau yn ein pedair uned gofal critigol yn Ysbyty Glangwili, Ysbyty Llwynhelyg, Ysbyty Bronglais ac Ysbyty Tywysog Philip.

Rydym yn gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr mewn unedau gofal critigol ledled Cymru.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: