Mae dwy ffordd y gallwch gael mynediad at y gwasanaeth yn Sir Gaerfyrddin.
Yn gyntaf, gallwch gyfeirio eich hun:
Yn syml, ffoniwch Llesiant Delta ar 03003332222
Bydd hwn yn cael ei adolygu gan wasanaeth IAA (Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth) Cyngor Sir Caerfyrddin a'i anfon ymlaen at y gwasanaeth priodol ar gyfer eich angen, gan gynnwys Ffisiotherapi os nodir.
Unwaith y byddwn wedi derbyn eich atgyfeiriad, bydd uwch aelod o'r tîm wedyn yn penderfynu a yw'r atgyfeiriad yn un brys, neu'n arferol yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarparwyd.
Cynhwyswch gymaint o fanylion amdanoch chi'ch hun, yr heriau sy'n eich wynebu a beth yn benodol y teimlwch y gallai Ffisiotherapi eich helpu i'w gyflawni fel bod prosesu eich atgyfeiriad yn symlach.
Yn ail, gallwch gael eich atgyfeirio ar gyfer ffisiotherapi gan feddyg, ymgynghorydd neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall (e.e. ymarferydd nyrsio, podiatrydd, therapydd galwedigaethol neu ffisiotherapydd arall):
Unwaith y byddwn wedi derbyn atgyfeiriad gan eich meddyg, ymgynghorydd neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol, bydd uwch aelod o'r tîm wedyn yn penderfynu a yw'r atgyfeiriad yn un brys, neu'n arferol yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarparwyd.
Os ydych wedi cael cynnig apwyntiad gan y gwasanaeth ffisiotherapi cymunedol ac yn dymuno cysylltu â’r tîm, canslo neu newid eich apwyntiad, cysylltwch â ni drwy’r manylion isod:
Rydym ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00am a 4.00pm ar y manylion cyswllt canlynol:
Ffisiotherapi Caerfyrddin (3T’s) CRT, Hyb Ffisiotherapi, Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin, SA312AF
Rhif Ffôn: 01267 227806
Ffisiotherapi CRT Llanelli, Eastgate, Llanelli, SA15 3YF
Rhif Ffôn: 01554 899429
Ffisiotherapi CRT Aman Gwendraeth, Ty Parc Yr Hun, Ffordd y Rhyd, Ammanford, SA18 3EZ
Rhif Ffôn: 01269 983000