Neidio i'r prif gynnwy

Ffisiotherapi Cymunedol

Rydym yn ymwybodol nad yw’r dogfennau sydd wedi’u cynnwys yn y maes hwn yn cydymffurfio â’r Safonau Hygyrchedd Digidol. Os hoffech gael mynediad i fformat arall, cysylltwch â DigitalCommunications.Team@wales.nhs.uk. Gallwch clicio yma i ddarllen ein datganiad hygyrchedd digidol (agor mewn dolen newydd).  

Byddwn yn gweithio gyda chi i helpu i wella eich gallu i reoli cyflyrau hirdymor, gwella o anaf ac i wella ar ôl salwch neu lawdriniaeth. Rydym yn arbenigo mewn helpu pobl i weithio tuag at eu nodau swyddogaethol. Mae'r gwasanaeth ffisiotherapi cymunedol wedi'i gynllunio i ddarparu asesiadau a thriniaeth i bobl a allai gael anhawster i gael mynediad at leoliadau cleifion allanol traddodiadol. Mae'r tîm hefyd yn helpu pobl a fyddai'n elwa mwy o dderbyn adsefydlu yn eu hamgylchedd cartref.

Gall hyn fod yn eu cartref eu hunain, mewn cartref gofal, llety dros dro, neu mewn clinig yn dibynnu ar yr hyn sydd fwyaf priodol. Sicrhau bod unigolion yn cael y mewnbwn angenrheidiol, wedi’i deilwra i’w hanghenion, nodau ac amgylchiadau penodol.

Os ydych yn teimlo bod angen i chi weld ffisiotherapydd, dilynwch y dolenni isod. Fel arall, efallai y cewch eich atgyfeirio gan feddyg teulu, ymgynghorydd neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: