Neidio i'r prif gynnwy

Ffisiotherapi ar gyfer plant a phobl ifanc

Mae ffisiotherapyddion yn gyfrifol am asesu’r rhai hynny y mae angen triniaeth arnynt yn sgil damwain, anaf, heneiddio, afiechyd neu anabledd, a chynnig rheolaeth gorfforol iddynt drwy symud, ymarfer corff, therapi â llaw, addysg a chyngor.

Fel ffisiotherapyddion pediatrig rydym yn defnyddio ein sgiliau ynghyd â’n gwybodaeth arbenigol am ddatblygiad plant a chyflyrau plentyndod i drin babanod, plant a phobl ifanc. Rydym yn asesu anghenion eich plentyn ac yn cytuno gyda chi a’ch plentyn, os yw’n addas, ar gynllun ffisiotherapi ar gyfer eich plentyn a’ch teulu. Fel ffisiotherapyddion pediatrig rydym yn mabwysiadu agwedd ‘person cyfan’ tuag at iechyd a lles, gan roi budd pennaf eich plentyn yng nghalon popeth a wnawn. Rydym yn anelu tuag at addysg, ymwybyddiaeth, grymuso, hunanreolaeth a chwarae rhan weithgar yn eich ymyriad ffisiotherapi er mwyn hybu, cynnal ac adfer lles corfforol, seicolegol a chymdeithasol.

Rydym yn gweithio ar y cyd ag eraill yn ogystal â chi fel cleifion, rhieni a gofalwyr i gytuno ar amcanion a fydd yn helpu eich plentyn. Ymhlith y gweithwyr proffesiynol yr ydym yn gweithio â hwy mae:

  • Pediatregwyr
  • Meddygon teulu
  • Ymgynghorwyr
  • Therapyddion Galwedigaethol
  • Therapyddion Iaith a Lleferydd

Isod mae cais am ffurflenni cymorth i ofyn am gymorth y Gwasanaeth Ffisiotherapi Plant a Phobl Ifanc. Bydd hyn yn ein helpu i nodi ai ein gwasanaeth ni yw'r mwyaf priodol i ddarparu'r gefnogaeth hon.

Byddem yn eich annog i lenwi'r ffurflenni hyn gyda'ch plentyn, neu eu hannog i lenwi'r ffurflen eu hunain, os ydych chi'n teimlo ei bod yn briodol. Anfonwch unrhyw ffurflenni "cais am gymorth" i gyfeiriad perthnasol eich ardal (adrannau ardal isod). 

Os bydd y cais am gymorth yn cael ei dderbyn, byddwn yn cysylltu â chi i gynnig apwyntiad. Efallai y bydd yna restr aros fer i chi gael eich gweld, ond bydd ffurflenni cais am gymorth yn cael eu blaenoriaethu, a bydd camau gweithredu yn cael eu cymryd mewn perthynas â nhw cyn gynted â phosibl. Os na fyddwn yn siŵr a yw ein gwasanaeth yn briodol, efallai y byddwn yn cysylltu â chi neu'r sawl a fydd yn gwneud yr atgyfeiriad i gael rhagor o wybodaeth. Os na fyddwn yn teimlo mai ein gwasanaeth ni yw'r un mwyaf priodol, byddwch yn cael llythyr yn nodi hynny, neu efallai y byddwn yn eich cyfeirio at wasanaeth mwy priodol. 

Cwblhewch ffurflen atgyfeirio ffisiotherapi pediatrig ar-lein yma

Mae ein tîm o Sir Gaerfyrddin wedi’u lleoli yn Ty Bryn, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin a Chlinig Elizabeth Williams yn Llanelli.

Gwasanaeth Therapi Plant

Cyfeiriad: Ty Bryn, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3BB 

Rhif ffôn: 0300 430 7980


Gwasanaeth Therapi Plant

Cyfeiriad: Clinig Elizabeth Williams, Mill Lane, Llanelli, SA15 3SE

Rhif ffôn: 0300 430 7996

 

Cardigan Integrated Care Centre

Cyfeiriad: Rhodfa'r Felin, Cardigan, SA43 1JX

Ffôn: 01239 801566

Canolfan Datblygiad Plan

Cyfeiriad: Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg , Ffordd Abergwaun, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 2PZ

Ffôn: 01437 773896

Switsfwrdd - Ffôn: 01437 764545

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: