Rydym yn ymwybodol nad yw dogfennau sydd wedi'u cynnwys yn y maes hwn yn cydymffurfio â'r Safonau Hygyrchedd Digidol. Os hoffech gael mynediad at fformat arall, ebostiwch DigitalCommunications.Team@wales.nhs.uk. Gallwch ddarllen ein datganiad hygyrchedd digidol (agor mewn dolen newydd) yma.
Bydd ein ffisiotherapyddion cyhyrysgerbydol (MSK) yn gweithio gyda chi er mwyn helpu i wella eich gallu i reoli cyflyrau poenus, gwella ar ôl anaf ac adfer yn dilyn llawdriniaeth. Rydym yn arbenigo mewn helpu pobl â chyflyrau sy'n effeithio ar feinwe cyhyrau, cymalau, nerfau, gewynnau, tendonau a strwythurau eraill y corff sy'n helpu gyda swyddogaeth ddyddiol.
Os ydych chi'n teimlo bod angen i chi weld ffisiotherapydd, gallwch chi gyfeirio'ch hun at y gwasanaeth gan ddefnyddio'r dolenni isod. Fel arall gallwch gael eich cyfeirio gan feddyg teulu, ymgynghorydd neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall.