Neidio i'r prif gynnwy

Endosgopi – rhagor o wybodaeth

Rydym yn ymdrechu i ddarparu'r gofal gorau posibl i bob claf sy'n mynychu'r unedau endosgopi.

Caiff atgyfeiriadau uniongyrchol o ofal sylfaenol eu gwerthuso, ac os yw'n briodol cânt gynnig prawf imiwnocemegol ar ysgarthion (FIT), sgan CT a/neu endosgopi.

Byddwn yn anfon gwybodaeth lawn atoch gyda'ch llythyr apwyntiad am unrhyw baratoadau y mae angen i chi eu gwneud, neu'n eu hesbonio i chi dros y ffôn.

Efallai y bydd angen i chi ymprydio am gyfnod cyn eich triniaeth, ar gyfer colonosgopi/sigmoidosgopi hyblyg efallai y bydd angen i chi gymryd meddyginiaeth glanhau'r coluddyn, os hoffech gael eich triniaeth dan gyffur tawelu bydd angen i chi drefnu i rywun fynd â chi adref ac i aros gyda chi dros nos.

Mae rhaglen sgrinio canser y coluddyn yn cynnig sgrinio bob dwy flynedd i bob dyn a menyw rhwng 58 a 74 oed sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu. Nod y rhaglen sgrinio yw canfod canser y coluddyn yn gynnar ymhlith pobl heb unrhyw symptomau, pan fydd triniaeth yn debygol o fod yn fwy effeithiol.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: