|
Cynhelir y Penwythnos Cwrs Hir yn Ninbych-y-pysgod o ddydd Gwener 30 Mehefin tan ddydd Sul 2 Gorffennaf 2023 ac mae gennym nifer cyfyngedig o leoedd ar gael ym mhob digwyddiad:
Bydd ein lleoedd cyfyngedig yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. I gystadlu, dilynwch y camau isod:
1. Cliciwch yma i lenwi ein ffurflen archebu ar-lein.
2. Yna byddwch yn derbyn gwahoddiad e-bost gan Ddigwyddiadau Gweithgaredd Cymru i gwblhau eu ffurflen gofrestru.
3. Yn dilyn cofrestru, byddwch yn derbyn e-bost oddi wrthym yn cadarnhau eich lle. Yna byddwn mewn cysylltiad i'ch helpu i godi arian ar gyfer eich elusen GIG leol!
Mae pob cystadleuydd yn derbyn potel ddŵr Elusennau Iechyd Hywel Dda a chrys T elusen cyn y digwyddiad. Ar ôl cwblhau'r digwyddiad, anfonir tystysgrif a medal at bob ymgeisydd.
Gofynnwn i chi addo codi isafswm mewn nawdd ar gyfer ein helusen, fel a ganlyn:
Sylwch y gallwch ddewis cefnogi ysbyty, ward, gwasanaeth neu adran benodol NEU gallwch ddewis codi arian at ddibenion elusennol cyffredinol. Mae codi arian at ddibenion elusennol cyffredinol yn golygu y bydd eich arian yn cael ei wario lle a phryd y mae ei angen fwyaf.
Oes gennych chi unrhyw gwestiynau?Os hoffech wybod mwy am y Penwythnos Cwrs Hir, cysylltwch â ni! Gallwch ein ffonio ar 01267 239815 neu anfon e-bost atom yn Codi Arian.HywelDda@wales.nhs.uk
|