Neidio i'r prif gynnwy

Ynghylch y gronfa dymuniadau

Mae ymgyrch y Gronfa Dymuniadau yn codi arian ar gyfer y gwasanaeth gofal lliniarol pediatrig.

Mae’r gwasanaeth gofal lliniarol pediatrig yn gofalu am blant a phobl ifanc sydd â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd ac yn bygwth bywyd. Nod y gwasanaeth yw rhoi'r cyfle i blant a phobl ifanc brofi'r ansawdd bywyd gorau posibl, er y gall eu bywydau gael eu byrhau.

Mae’r gronfa dymuniadau yn helpu’r gwasanaeth Gofal Lliniarol Pediatrig i greu atgofion parhaol i’r plant, y bobl ifanc a’r teuluoedd y mae yn eu cefnogi. Gall hyn gynnwys:

  • trefnu gweithgareddau arbennig i greu atgofion hirhoedlog, megis gweithgareddau grŵp a theithiau diwrnod i'r teulu 
  • darparu teganau a deunyddiau celf a chrefft ar gyfer ein gwasanaeth chwarae therapiwtig i helpu plant a phobl ifanc brosesu a deall yr hyn y maent yn ei brofi
  • darparu llyfrau cydymdeimlad personol a Thedi Bêrs Bydd yn Ddewr ar gyfer brodyr a chwiorydd.

Mae’r Gronfa Dymuniadau hefyd yn darparu mentrau llesiant a gwasanaethau ychwanegol i’r teulu cyfan.

Mae hyn oll yn wariant y tu hwnt i wariant craidd y GIG.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: