Ar hyn o bryd mae tri band tâl am driniaeth ddeintyddol y GIG. Byddwch yn talu un o'r canlynol:
- Band 1 (£20): Bydd y tâl hwn yn cynnwys archwiliad, diagnosis a gofal ataliol. Os bydd angen, bydd hyn yn cynnwys:
- Pelydr-X
- Cyngor iechyd y geg
- Cynllunio triniaeth bellach
- Band 2 (£60): Mae’r tâl hwn yn cynnwys yr holl driniaethau angenrheidiol a gwmpesir gan y tâl o £20 ynghyd â:
- llenwadau ychwanegol
- triniaethau sianel y gwreiddyn
- tynnu dannedd
- triniaeth beriodontol (ar gyfer clefyd y deintgig)
- Band 3 (£260): Mae’r tâl hwn yn cynnwys yr holl driniaeth angenrheidiol a gwmpesir gan y taliadau o £20 a £60 ynghyd â gweithdrefnau mwy cymhleth fel:
- Coron
- Dannedd gosod
- Pontydd
- Gofal Deintyddol Brys (£30): Mae'r tâl hwn yn cynnwys asesiad, diagnosis a gofal ataliol. Os bydd angen, bydd yn cynnwys pelydrau-X ac unrhyw driniaeth i atal y broblem a gyflwynir rhag gwaethygu'n sylweddol neu i fynd i'r afael â phoen difrifol.
Mae triniaeth ddeintyddol y GIG am ddim i blant dan 18 oed a rhai grwpiau eraill sy'n bodloni'r meini prawf eithrio.
I gael rhagor o wybodaeth am daliadau deintyddol y GIG, ewch i:
Mae’n bosibl y bydd cymorth gyda chostau deintyddol y GIG ar gael a gall y rhai sy’n bodloni’r meini prawf ei gael drwy lenwi ffurflen HC1 sydd ar gael gan eich deintydd neu o wefan Llywodraeth Cymru (yn agor mewn dolen newydd)