Mae practisau deintyddol yn gofalu amiechyd y geg yn gyffredinol. O archwiliadau arferol i drin poen deintyddol, heintiau a chlefyd y deintgig, gall eich tîm deintyddol eich helpu i gadw'ch dannedd a'ch ceg yn iach.
Gall ymweliadau deintyddol rheolaidd helpu i atal problemau cyn iddynt ddod yn ddifrifol. Bydd eich gweithiwr proffesiynol deintyddol yn gallu eich cynghori pa mor aml y mae angen archwiliad arferol arnoch.
Os ydych chi'n profi problemau fel poen dannedd, deintgig gwaedlyd, wlserau'r geg neu sensitifrwydd, mae'n well cysylltu â deintydd yn hytrach na'ch meddyg teulu.
Mae deintyddion wedi'u hyfforddi'n arbennig i wneud diagnosis o broblemau iechyd y geg a'u trin. Mae ganddyn nhw'r offer a'r arbenigedd cywir i ddarparu'r gofal mwyaf effeithiol ar gyfer y cyflyrau hyn.
Mae iechyd y geg da yn bwysig ar gyfer iechyd a lles. Gall trefn frwsio/glanhau reolaidd helpu i leihau'r risg o broblemau iechyd y geg, poen, anghysur a cholli dannedd.
Negeseuon allweddol ar gyfer cynnal iechyd y geg da:
Mae deintyddion yn rhan bwysig o'n tîm gofal sylfaenol. Gallwch ddysgu mwy am ba wasanaethau gofal sylfaenol eraill sydd ar gael yn ein hardal yma (agor mewn dolen newydd)
Mae'r fideos hyn yn trafod beth mae pob gwasanaeth yn ei gynnig a sut allwch chi ofalu amdanoch chi'ch hun mewn fideos byr, hawdd eu deall