Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn addewid gan y genedl sy'n sicrhau bod y rhai sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a'u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg. Mae'r cyfamod yn cefnogi personél sy'n gwasanaethu, ymadawyr y gwasanaeth, cyn-filwyr a'u teuluoedd. Mae cyn-filwr yn rhywun sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog am o leiaf ddiwrnod.
Llofnododd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Gyfamod y Lluoedd Arfog ac enillodd wobr aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn ym mis Gorffennaf 2021.