Mae Codi Llais Heb Ofn yn gynllun a fydd yn cefnogi cydweithwyr i godi llais am bryderon a materion, waeth pa mor fawr neu fach.
Nod y cynllun yw sicrhau bod gwasanaeth diogel o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu gan weithlu hyderus ac ymgysylltiol. Bydd y cynllun hwn yn galluogi diwylliant agored a thryloyw. Bydd hyn yn arwain at amddiffyn diogelwch cleifion, gan ddarparu'r gofal o ansawdd uchel y mae ein cleifion yn ei haeddu, a gwella'r profiad i bawb.
Sylwch: nid yw'r ddolen isod yn hygyrch i aelodau'r cyhoedd.