Os ydych wedi ymweld â'ch Meddyg Teulu gyda symptomau amhenodol ond sy'n peri pryder, gallech gael eich atgyfeirio i'r Clinig Diagnosis Cyflym (RDC), sydd wedi'i leoli yn Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli. Mae'r clinig ar gael i gleifion o Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Yn eich apwyntiad clinig, byddwch yn cael eich gweld gan Feddyg RDC a bydd ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal, a all gynnwys sgan CT. Byddwch yn gadael yr RDC naill ai gyda canlyniadau a diagnosis tebygol, cynllun ar gyfer ymchwiliadau pellach neu sicrwydd os yw'r canlyniadau'n normal.
Clinig Diagnosis Cyflym (RDC), Uned Brysbennu Brys yn Ysbyty Tywysog Philip
Rhif Ffôn 01269 820328
Mae'n bwysig eich bod yn mynychu eich apwyntiad yn y Clinig Diagnosis Cyflym i ddiystyru unrhyw salwch difrifol