Mae cwyr clust yn secretiad corff arferol, sy'n amddiffyn leinin camlas y glust. Fe'i gelwir weithiau'n serumen. Fel arfer, nid oes angen tynnu cwyr o'ch clust, oherwydd bydd eich corff yn gwneud hyn yn naturiol. Mae faint o gwyr clust rydyn ni'n ei gynhyrchu yn unigol iawn ac efallai na fydd yn dod yn broblem oni bai ei fod yn cael ei effeithio yn y glust.
Mae'r Gwasanaeth Clinig Cymunedol yn cael ei arwain gan nyrsys ac yn darparu rheolaeth cwyr clust, gan gynnwys cyngor ar hunan-reoli ac atal, tynnu cwyr clust ac atgyfeirio ymlaen yn ôl yr angen. Mae’r gwasanaeth ar gael i bobl sy'n parhau i gael problemau ar ôl defnyddio diferion olew olewydd am wythnos ac sy'n gallu mynychu Adran Cleifion Allanol.
Bydd y clinig yn darparu:
Gallwch hunanatgyfeirio drwy glicio ar y ddolen hon i weld y ffurflen hunanatgyfeirio ar gyfer clinig microsugno clust cymunedol (yn agor mewn tab newydd) neu drwy ffonio Hyb Cyfathrebu’r bwrdd iechyd ar 0300 303 8322. Sylwch, mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl 18 oed a hŷn.
Mae Clinigau Micro Sugno Cwyr Clust Cymunedol yn gweithredu mewn lleoliadau ar draws y bwrdd iechyd o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00am a 5.00pm. Mae’r gwasanaeth ar gyfer cleifion sydd wedi cael apwyntiad ac ni allwn ddarparu gwasanaeth galw heibio.
Sir Gaerfyrddin:
Ceredigion:
Sir Benfro: