Neidio i'r prif gynnwy

Caplaniaeth

Rydym yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol i bawb, a nid ydym yn beirniadu unrhyw un.

Mae'r tîm caplaniaeth yn cefnogi cleifion, staff ac ymwelwyr ac yn parchu pobl o bob cred grefyddol a diwylliannol ac o bob rhyw yn ogystal â'r rhai nad oes ganddynt unrhyw ffydd. Rydym yn gwneud hyn trwy weithio i'r nod o wella'ch llesiant yn effeithiol a gofalu amdanoch gydag urddas, ymroddiad ac astudrwydd.

Rydym yn:

  • cynnig cyfleoedd i addoli, gweddïau a'r sacramentau
  • cynnig clust i wrando
  • cynnig cefnogaeth gwnsela
  • cynnig gofal ysbrydol
  • darparu cefnogaeth fugeiliol
  • sianel i al war gynrychiolwyr ffydd eraill.

Gall unrhyw un atgyfeirio i'r tîm caplaniaeth. Mae hyn yn cynnwys pob aelod o staff, perthnasau a ffrindiau, neu aelodau o gymuned ffydd y claf. Gall cleifion atgyfeirio eu hunain hefyd. Byddwn bob amser yn gofyn i’r claf a ydyw’n hapus i gael ymweliad.

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi'r holl anghenion bugeiliol, ysbrydol a chrefyddol ac rydym am gefnogi staff i ddarparu'r gofal gorau a'u gwahodd i rannu unrhyw bryderon neu ddymuniadau sydd gan gleifion fel y gallwn fod yn rhagweithiol wrth gael y canlyniadau a ddymunir (os yw'n ymarferol ac yn rhesymol). Yn y lle cyntaf, cysylltwch â'r Uwch Gaplan (manylion isod).

I drafod materion neu gefnogaeth ar gyfer gofal ysbrydol sy'n effeithio'r bwrdd iechyd, cysylltwch â'r Uwch Gaplan:

Euryl Howells - Uwch Gaplan 
Swyddfa Gaplaniaeth, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin, SA31 2AF
Rhif Ffôn: 01267 227563 
Ebost: Euryl.Howells2@wales.nhs.uk 

Os oes mater brys, cysylltwch â Switsfwrdd Ysbyty Cyffredinol Glangwili ar 01267 235151.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: