Neidio i'r prif gynnwy

Canser y pen a'r gwddf

Os ydych chi'n aros am lawdriniaeth neu driniaeth fel cemotherapi neu radiotherapi ar hyn o bryd, gall paratoi'n effeithiol wneud gwahaniaeth sylweddol i'ch profiad o driniaeth a'ch adferiad - dewch o hyd i ragor o wybodaeth ar sut i baratoi ar gyfer triniaeth canser yma. (agor mewn dolen newydd)

Mae'r gwasanaeth hwn ar gael os ydych wedi cael diagnosis o ganser y pen a'r gwddf, gydag atgyfeiriad gan ymarferydd meddygol. Rydym yn darparu gwybodaeth ar eich clefyd ac unrhyw ymchwiliadau a gweithdrefnau sydd eu hangen. Mae'n bosib i ni ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth i chi, eich perthnasau a’ch ofalwyr. Fe allwn ni egluro i chi unrhyw lawdriniaeth sydd ei hangen a’r hyn sydd i’w ddisgwyl ar ôl y llawdriniaeth.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: