Neidio i'r prif gynnwy

Brys ac allan o oriau

Mae ein timau yn ein Hadrannau Achosion Brys (A&E) ar draws ein hysbytai o dan bwysau sylweddol. Helpwch ni drwy ddewis yn ofalus sut rydych yn defnyddio ein gwasanaethau, fel ein bod ond yn gweld pobl ag anghenion gofal brys neu argyfwng yn ein hadrannau damweiniau ac achosion brys. Mae ein tudalen yn egluro pryd i ddefnyddio A&E neu gwasanaethau arall (agor mewn dolen newydd). Diolch am eich cefnogaeth ac am ein helpu ni i'ch helpu chi.

 

Mewn argyfwng meddygol, pan fydd rhywun yn ddifrifol wael neu wedi’i anafu’n ddifrifol a bod ei fywyd mewn perygl (megis yn anymwybodol, anhawster anadlu, amheuaeth o drawiad ar y galon neu strôc, poen yn y frest, colled gwaed trwm, anaf difrifol neu losgiadau difrifol), dylech ffonio 999.

Os oes gennych angen gofal brys na all aros ond sydd ddim yn argyfwng 999, defnyddiwch gwiriwr symptomau GIG 111 Cymru ar-lein (agor mewn dolen newydd)  neu ffonwich 111 Hefyd, 111 yw'r rhif sydd angen i chi ffonio i gyrchu gwasanaethau Tu Allan i Oriau (Meddyg Teulu Tu Allan i Oriau) led-led yr ardal.

Os ydych chi'n fyddar neu'n drwm eich clyw ac nad ydych chi'n defnyddio BSL neu os oes gennych fynediad at gyfrifiadur, llechen neu ffôn clyfar, rydych chi'n dal i gysylltu â 111 trwy Ras Gyfnewid Testun / Testun y Genhedlaeth Nesaf (a elwid gynt yn Type Talk) trwy ddeialu 18001 111.

Os oes angen i chi siarad â rhywun am eich iechyd meddwl, neu os ydych yn pryderu am aelod o’r teulu, gan gynnwys os yw’n fater brys, ffoniwch 111 a dewiswch opsiwn 2. Byddwch wedi’ch cysylltu’n uniongyrchol â gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol yn eich ardal ac ni fydd angen i chi aros yn hir. Mae'r rhif am ddim i'w ffonio o linell ffôn arferol neu ffôn symudol ac mae ar gael i bob oed. Mae’n bwysig blaenoriaethu eich iechyd meddwl a’ch lles. Gallwch hefyd ffonio os nad ydych yn siŵr ble i droi i gael cyngor ac arweiniad ar eich iechyd meddwl.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: