Neidio i'r prif gynnwy

Patients Know Best (PKB) – Cwestiynau Cyffredin

Isod mae'r atebion i rai o'r cwestiynau cyffredin ar gyfer cofnodion personol a gedwir am gleifion ar wefan Patient Knows Best (PKB):

  1. A fydd arnaf angen cysylltiad â'r Rhyngrwyd i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
    Bydd. Gwasanaeth ar-lein yw hwn a bydd yn ofynnol i chi neu ofalwr fod â chysylltiad rheolaidd â'r Rhyngrwyd i gael eich gohebiaeth trwy'r porth ac i ddefnyddio'r nodweddion ychwanegol.
     
  2. Pa ddyfeisiau y gallaf eu defnyddio i fewngofnodi?
    Gallwch gyrchu eich cofnod PKB o unrhyw ffôn clyfar, llechen neu ddyfais bwrdd gwaith. Ni fydd angen i chi ddiweddaru eich dyfais na gosod meddalwedd newydd. Yn syml iawn, defnyddiwch eich porwr gwe i fewngofnodi. Fodd bynnag, bydd angen i chi (neu eich gofalwr) fod â chysylltiad rheolaidd â'r Rhyngrwyd i gael eich gohebiaeth ac i gael mynediad at yr holl nodweddion.
     
  3. Beth a fydd yn digwydd os na fyddaf am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
    Mae'r Cofnod a Gedwir gan y Claf ar-lein yn wasanaeth dewisol ac mae'n gofyn i chi 'optio i mewn'. Mae'n rhoi dewis i gleifion sy'n dymuno rhyngweithio â'r ysbyty mewn fformat digidol; ni fydd yn effeithio ar y gofal a gewch gan y Bwrdd Iechyd. Os na fyddwch yn dymuno defnyddio'r gwasanaeth hwn, gallwch anwybyddu'r gwahoddiad, a byddwch yn parhau i gael eich gohebiaeth gan yr ysbyty yn y modd arferol.
     
  4. Pa ohebiaeth sydd ar gael yn y Cofnod a Gedwir gan y Claf?
    Ar ôl i chi gofrestru, bydd llythyrau apwyntiadau cleifion allanol ar gael i chi, a bydd gohebiaeth bellach yn dechrau bod ar gael yn y porth yn y dyfodol. Bydd eich tîm clinigol hefyd yn gallu anfon negeseuon atoch mewn modd diogel. Nodwch y byddwch yn dal i gael gohebiaeth ysgrifenedig yn y post nes y bydd pob adran yn yr ysbyty yn gallu anfon eu llythyrau fel hyn.  Bydd rhai clinigwyr hefyd yn rhannu adnoddau a fideos y maent yn eu hystyried yn ddefnyddiol i chi.
     
  5. A fydd fy ngwybodaeth yn cael ei chadw mewn modd diogel?
    Bydd. Mae'r Cofnod a Gedwir gan y Claf, a ddarperir gan PKB, yn bodloni gofynion y GIG ar gyfer systemau cofnodion iechyd, ac yn cydymffurfio'n llawn â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Dim ond y lefel o ddata sy'n ofynnol i'ch dilysu a fydd yn cael ei huwchlwytho. Bydd yr holl wybodaeth bersonol a gwybodaeth iechyd sy'n cael ei storio yn cael ei hamgryptio. Patients Know Best (PKB) yw'r darparwr meddalwedd a ddewiswyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddarparu'r gwasanaeth hwn.
     
  6. Ble y gallaf ddod o hyd i help o ran defnyddio PKB?
    Gallwch gyrchu Llawlyfr Cymorth Patients Know Best (agor mewn dolen newydd).  Mae'n cynnig llawer o wybodaeth ddefnyddiol am y modd i ddefnyddio PKB.
     
  7. A fydd hyn yn effeithio ar fy ngofal?
    Na fydd. Ni fydd hyn yn effeithio ar y gofal yr ydych eisoes yn ei gael gennym. Mae wedi'i gynllunio, yn hytrach, i wella eich gofal a'ch profiad, i'ch helpu i gymryd mwy o ran mewn penderfyniadau, i'ch helpu i gael gwell esboniadau gennym, ac i roi'r offer i chi reoli eich gofal yn ddiogel gartref.
     
  8. A yw'r system yn ddiogel, a sut y gallaf fod yn sicr na fydd fy ngwybodaeth yn cael ei rhannu na'i gwerthu?
    Mae Patients Know Best yn cael ei gynnal yn rhwydwaith y GIG, felly mae'r un mor ddiogel â'r wybodaeth sydd gennym ni yn yr ysbyty amdanoch. Roeddem wedi dewis y system hon am ei bod yn bodloni anghenion llym y GIG ar gyfer systemau cofnodion iechyd ac yn cydymffurfio'n llawn â Deddfwriaeth Diogelu Data 2018. Mae'r holl wybodaeth bersonol a gwybodaeth iechyd yn cael ei hamgryptio (neu'i chodio), a dim ond mynediad at eich rhif GIG sydd gan PKB.  Mae hyn yn golygu mai dim ond chi a'r bobl yr ydych yn eu dewis a all gael mynediad at eich gwybodaeth iechyd.
     
  9. A allaf ofyn i ofalwr neu aelod o'r teulu gofrestru ar fy rhan?
    Gallwch. Gyda'ch cydsyniad, gall aelodau o'r teulu a gofalwyr gofrestru ar eich rhan. Fodd bynnag, ni ddylent ddefnyddio eu cyfrif e-bost eu hunain i wneud hynny. Os byddwch am i'r aelod o'r teulu neu'r gofalwr gael mynediad at eich cofnod, gellir eu hychwanegu yn yr adran 'Sharing'. Bydd hyn yn caniatáu iddynt greu eu cyfrif eu hunain ac yn eich galluogi chi i reoli lefel y mynediad a fydd ganddynt i'ch cofnod.
     
  10. Pam y mae fy nghofnod yn wag?
    Ni allwn ychwanegu unrhyw wybodaeth nes y byddwch wedi cofrestru. Ar ôl i chi gofrestru, bydd eich gohebiaeth yn dechrau dod ar gael. Yn y cyfamser, gallwch ychwanegu eich gwybodaeth eich hun, megis olrhain eich symptomau, neu gofnodi unrhyw alergeddau neu feddyginiaeth yr ydych yn ei chymryd.
     
  11. A fydd yn costio unrhyw beth i mi?
    Na fydd. Ni fydd yna unrhyw gostau i chi, y claf, gan fod y gwasanaeth yn cael ei ariannu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
     
  12. Rwy'n cael problemau technegol neu anawsterau wrth gofrestru. Â phwy y dylwn gysylltu?
    Anfonwch neges e-bost at dîm cymorth PKB: help@patientsknowbest.com a bydd aelod o'r tîm yn barod iawn i'ch helpu. Yr unig wybodaeth y bydd angen i chi ei darparu yw eich enw, enw'r sefydliad a greodd eich cyfrif (h.y. yr ysbyty hwn), a chrynodeb o'r broblem/problemau y daethoch ar eu traws.
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: