Neidio i'r prif gynnwy

Cofnodion personol a gedwir "Patient Knows Best" (PKB)

Rydym yn cyflwyno ffordd newydd i’n cleifion allu gweld eu gwybodaeth feddygol ar-lein. Mae cofnod iechyd personol yn gofnod ar-lein o'ch iechyd. Gall eich helpu chi a'r rhai sy'n ymwneud â'ch gofal i fod yn fwy gwybodus a chael mwy o ran mewn penderfyniadau am eich iechyd a'r gofal sydd ei angen arnoch.

Bydd hyn yn eich grymuso i chwarae rhan weithredol yn eich iechyd a lles, gan ddefnyddio offer a ddyluniwyd yn arbennig i fonitro ac olrhain eich cyflwr iechyd.

Byddwn yn defnyddio Patients Know Best (PKB) sy’n borth ar-lein diogel i helpu rhai cleifion i gael mynediad i adnoddau ar-lein i helpu i reoli eich iechyd gyda chefnogaeth tîm clinigol. Os yw hyn yn berthnasol i chi, byddwn yn cysylltu â chi ac yn eich gwahodd i ymuno naill ai trwy lythyr neu e-bost.

Mae'r gwasanaeth hwn am ddim i'n cleifion ac mae'n rhan o'n haddewid a'n hymrwymiad parhaus i roi mwy o ddewis a rheolaeth i chi dros eich gofal.

Mae PKB yn galluogi cleifion i storio eu cofnodion iechyd mewn un lle ac yn rhoi mynediad ar unwaith. Mae'n ffordd well o reoli gwybodaeth bwysig fel llythyrau apwyntiad, cynlluniau gofal a chaniatáu negeseuon diogel rhyngoch chi a'ch tîm gofal iechyd.

Mewngofnodwch neu cofrestrwch gyda gwefan  Patients Know Best (PKB) yma (yn agor mewn dolen newydd)

Ble bynnag yr ydych, cyn belled â bod gan eich dyfais gysylltiad rhyngrwyd, bydd PKB yn eich galluogi i:

• edrych ar eich llythyrau apwyntiad ysbyty a chynlluniau gofal;
• galluogi negeseuon diogel gyda'ch tîm gofal iechyd.

Gyda'ch caniatâd, gallwch rannu eich cofnod iechyd ar unwaith gyda gofalwyr, aelodau'r teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill sy'n ymwneud â'ch gofal.

Gall hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol os byddwch yn gweld clinigwr newydd, neu mewn argyfwng. Bydd gennych reolaeth lwyr dros bwy all weld y wybodaeth sydd ar wefan PKB.

Byddwch yn gallu defnyddio PKB i:

  • diweddaru eich gwybodaeth feddygol mewn amser real ar bethau fel meddyginiaeth, alergeddau, a diagnosis;
  • defnyddio'r dyddlyfr ar-lein i gofnodi a monitro unrhyw symptomau rydych yn eu profi;
  • llenwi holiaduron i helpu i fonitro eich symptomau;
  • defnyddio negeseuon ar-lein i gysylltu ag aelodau o'ch tîm gofal;
  • uwchlwytho dogfennau i lyfrgell PKB. Bydd eich tîm gofal hefyd yn gallu gwneud hyn.

Bydd ein timau hefyd yn gallu darparu dolenni i amrywiaeth o adnoddau a gwefannau eraill a allai gynnig gwybodaeth ddefnyddiol i gefnogi'ch lles a'ch adferiad.

Os ydych wedi derbyn e-bost neu lythyr yn eich gwahodd i gofrestru gyda'r gwasanaeth, ewch i'r dudalen gofrestru ar wefan PKB Patients Know Best (agor mewn dolen newydd).   Bydd angen y cod gwahoddiad a'r cod mynediad o'ch llythyr arnoch i gofrestru.

Ymwelwch â'n tudalen cwestiynau cyffredin yma (agor mewn dolen newydd). am fwy o wybodaeth ar sut i gofrestru.

Cyn i chi gofrestru eich cyfrif edrychwch ar y canlynol:

Bydd y rhain yn esbonio sut mae eich data personol yn cael ei ddefnyddio, sut mae’n cael ei rannu, a’i gadw’n ddiogel ar wefan PKB.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: