Neidio i'r prif gynnwy

Pa mor fanwl yw eich adolygiad?

Nod ein hadolygiad yw mesur sut y mae ap yn cydymffurfio â’r rheoliadau a’r arferion gorau perthnasol mewn ystod o feysydd megis preifatrwydd data a sicrwydd proffesiynol.

Mae’n golygu gwerthuso mwy na 300 o elfennau mewn ap a dilysu gwybodaeth allweddol megis cydymffurfiaeth â’r rheoliadau perthnasol ynghylch data a phreifatrwydd, cydymffurfiaeth â rheoliadau allweddol yn ymwneud â dyfeisiau meddygol (sy’n cael eu mewnblannu ar hyn o bryd i adlewyrchu’r rheoliadau newydd) ac asesu’r ap hefyd o gymharu ag amryw o feysydd safonau ac arferion gorau eraill. Fodd bynnag, nid yw hyn yn gyfystyr â chynnal prawf defnyddiwr llawn ar yr ap ac ni ddilysir yr holl honiadau a wneir gan ddatblygwyr apiau, y byddai gofyn cynnal profion clinigol manwl a phrofion eraill ar lawer ohonynt, ynghyd â phrofion a threialon helaeth â defnyddwyr mewn sawl achos.

Heblaw am nifer bach o gynlluniau achredu cenedlaethol, nid oes yr un broses adolygu helaeth arall yn cwmpasu cynifer o elfennau o gyflwyniad Apiau â’n proses ni. Cyflwynir proses debyg yn y GIG yn Lloegr trwy GIG Lloegr/NHSX sydd â phroses asesu sy’n cwmpasu llawer o’r un elfennau â ni, er ei fod hefyd yn cynnal dadansoddiad manylach o elfennau eraill sy’n mynd y tu hwnt i’n proses gyfredol ni (ond yr ydym ninnau’n gweithredu cam adolygu eilaidd sy’n cyd-fynd â’r camau ychwanegol hyn er nad yw hwnnw’n cael ei gyhoeddi ar hyn o bryd). Fodd bynnag, yr ydym yn cofnodi ac yn nodi’r holl Apiau sydd wedi cael eu ‘cymeradwyo’ trwy’r broses hon a’r ychydig o brosesau cenedlaethol cyfwerth sydd ar waith.

Er bod y cynlluniau cenedlaethol hyn yn anelu at gynyddu nifer yr apiau sy’n cael sylw ganddynt, nid ydynt wedi adolygu mwy na chyfran fach iawn o’r apiau sydd ar gael, a chanran fach yn unig o nifer yr Apiau a aseswyd gennym ni. Mae hyn yn golygu bod lefel yr ymdriniaeth a’r dewis a gynigir gan y dulliau gweithredu hyn yn gyfyngedig iawn ar hyn o bryd.

Yn achos rhai Apiau, mae gwaith craffu pellach yn ofynnol os pennir eu bod nhw’n ddyfeisiau meddygol, er bod graddau’r gwaith craffu ychwanegol yn dal i ddibynnu i raddau helaeth ar lefel y dosbarthiad a ddyfernir. Er enghraifft, mae dyfeisiau meddygol dosbarth i yn seiliedig, i raddau helaeth, ar ddull hunanardystio.

Bydd rhai Apiau wedi cynnal a chyhoeddi treialon clinigol neu astudiaethau cyfatebol ac wedi bod trwy adolygiad perthnasol gan gymheiriaid, ac er eu bod nhw’n amlwg yn dangos ymrwymiad pendant i sefydlu eu manylion a’u heffeithlonrwydd clinigol, mae’n bosibl na fyddant yn cydymffurfio’n briodol ag agweddau eraill allweddol o gyflwyniad cyffredinol apiau megis diogelwch data neu ffurfweddiad y defnyddiwr, ac ati, sydd hefyd yn cael eu gwerthuso gennym.

Gan ystyried y cefndir a’r cyd-destun hwn, credwn fod ein proses mor drylwyr ag y gall fod heb gynnal gwerthusiad llawer mwy manwl a chostus a fyddai’n cyfyngu ar amrywiaeth ac amrediad yr apiau y gallwn eu hystyried. Rydym hefyd yn credu, ac yn monitro ac yn profi ein proses yn barhaus ar y sail hon, fod y cyfuniad o fesurau a ystyriwn yn cynnig darlun cywir iawn o ap sydd fel arfer yn cyd-fynd â’r darlun a gyflwynir gan asesiadau manylach eraill, a’i fod felly yn arwydd cyffredinol dibynadwy o ansawdd apiau.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: