Rydym yn sylweddoli bod hon yn ffordd newydd a gwahanol o fonitro eich iechyd, ond cofiwch y byddwch yn cael eich cefnogi drwy gydol y broses gan aelod o staff o Lesiant Delta.
Bydd y camau canlynol yn eich helpu i ddechrau arni:
- Bydd aelod o dîm TEC Llesiant Delta yn dod i'ch cartref ac yn dangos i chi sut i ddefnyddio'r offer a sut mae'n cysylltu drwy AP ar eich ffôn neu lechen.
- Dangosir i chi sut i gymryd darlleniad a bydd yr AP yn rhoi gwybod i chi ei fod wedi'i gwblhau ac yn gofyn i chi gymryd eich darlleniad nesaf.
- Ar ôl cymryd eich darlleniadau, bydd staff Llesiant Delta yn edrych ar y canlyniadau i sicrhau eu bod yn ôl y disgwyl. Peidiwch â phoeni, bydd aelod o dîm Llesiant Delta yn cysylltu â chi os nad yw eich darlleniadau yn ôl y disgwyl.
- Bydd eich gweithiwr iechyd proffesiynol hefyd yn cael mynediad i'r darlleniadau hyn a fydd yn helpu gyda'ch cymorth iechyd hirdymor.