Mae yna ystod o wahanol offer technoleg ar gael i gefnogi eich anghenion penodol. Darperir offer gan y gwasanaeth monitro teleofal sef Llesiant Delta, a bydd gwasanaethau gofal teleiechyd eraill ar gael i'ch cefnogi.
Cysylltwch â thîm Llesiant Delta 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos drwy ffonio 0300 333 2222.
Byddwch yn derbyn galwadau llesiant a mynediad at dîm lles cymunedol 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Byddwch hefyd yn derbyn cefnogaeth ddigidol i helpu i gysylltu â'r gymuned. Darperir hyn i gyd yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro trwy'r gwasanaeth CONNECT.
Ewch i wefan Llesiant Delta i gael amrywiaeth o wybodaeth am brosiect Delta CONNECT (yn agor mewn tab newydd) for a range of information about the Delta CONNECT project, gan gynnwys fideos ac astudiaethau achos cleifion.
Canllawiau Defnyddwyr Gofal a Alluogir gan Dechnoleg – Llesiant Delta (yn agor mewn tab newydd)