Mae amrywiaeth eang o ffyrdd o gymryd rhan a helpu i lunio gwasanaethau iechyd a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Gall eich barn, eich syniadau a'ch profiadau lywio'r ffordd yr ydym yn cynllunio ac yn darparu gwasanaethau ar gyfer y dyfodol.
Cymerwch ran a rhannwch eich barn ar ein gwefan 'Dweud eich Dweud' neu ymunwch â'n cynllun cynnwys Siarad Iechyd/Talking Health, gan ddefnyddio'r dolenni isod.