Rhoi sicrwydd ynghylch trefniadau Bwrdd Iechyd y Brifysgol ar gyfer sicrhau iechyd, diogelwch, lles a sicrwydd yr holl gyflogeion, yn ogystal â'r rheiny y gallai gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r gwaith effeithio arnynt, er enghraifft cleifion, aelodau o'r cyhoedd, gwirfoddolwyr, contractwyr, ac ati.
Cynghori a sicrhau'r Bwrdd ynghylch a oes trefniadau effeithiol ar waith i sicrhau cydymffurfedd ledled y sefydliad â Pholisi Iechyd a Diogelwch y Bwrdd Iechyd, cymeradwyo a monitro cyflawniad yn erbyn y Cynllun Gwella Blaenoriaeth Iechyd a Diogelwch, a sicrhau cydymffurfedd â'r Safonau perthnasol ar gyfer Gwasanaethau Iechyd yng Nghymru.
Lle y bo'n briodol, bydd y Pwyllgor yn cynghori'r Bwrdd ar le a sut y gellir cryfhau a datblygu ei reolaeth o ran iechyd a diogelwch ymhellach.
Rhoi cyngor ar gydymffurfedd â phob agwedd ar ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch.
O ran ei rôl i ddarparu cyngor i'r Bwrdd, bydd y Pwyllgor yn gwneud sylwadau penodol ar ddigonolrwydd trefniadau a phrosesau sicrwydd ar gyfer darparu swyddogaeth Iechyd a Diogelwch effeithiol sy'n cwmpasu:
Manylir ar rôl lawn y Pwyllgor yng Nghylch Gorchwyl y Pwyllgor Iechyd a Diogelwch (PDF 634KB, agor mewn dolen newydd)
Cliciwch isod i gael mynediad at bapurau cyfarfodydd y Pwyllgor Iechyd a Diogelwch. Nodwch mae'r dogfennau ar gael yn Saesneg yn unig.
2024
2023
2022
2021
2020