Rôl y Pwyllgor hwn fydd cefnogi’r Bwrdd i ymateb yn ddigidol i’r heriau allweddol y mae’n eu hwynebu a goruchwylio’r gwaith o ddatblygu a gweithredu prosiectau trawsnewid digidol ar raddfa fawr i wireddu’r cyfleoedd sy’n deillio o strategaeth Ddigidol y Bwrdd Iechyd mewn ymateb i Ganolbarth a Gorllewin Cymru Iachach.
Pwrpas y Pwyllgor Digidol, Data ac Arloesi bydd rhoi cyngor a sicrwydd i’r Bwrdd ar y canlynol:
- Bod cyfeiriad, datblygiad a chyflwyniad y Strategaeth Ddigidol i ysgogi gwelliant parhaus a chefnogi gofal iechyd a alluogir yn ddigidol trwy weithlu digidol i gyflawni amcanion Cynllun Blynyddol/Cynllun Tymor Canolig Integredig (IMTP) y Bwrdd Iechyd.
- Bod y sefydliad yn cyflawni ei gyfrifoldebau o ran ansawdd ac uniondeb; diogelwch a mynediad a defnydd priodol o wybodaeth a data, i gefnogi gwella iechyd a darparu gofal iechyd o ansawdd uchel.
- Bod trefniadau’r Bwrdd ar gyfer creu, casglu, storio, diogelu, lledaenu, rhannu, defnyddio a gwaredu gwybodaeth yn unol â’i amcanion datganedig; cyfrifoldebau deddfwriaethol, ac unrhyw ofynion, safonau a chodau ymarfer perthnasol.
- Bod y sefydliad yn cyflawni ei swyddogaethau ac yn cyflawni ei gyfrifoldebau o ran gweithgarwch ymchwil ac arloesi a wneir o fewn y sefydliad.
Cliciwch yma am Gylch Gorchwyl Pwyllgor Digidol, Data ac Arloesi (agor mewn dolen newydd)
Cliciwch isod i gael mynediad at papurau'r Pwyllgor Digidol, Data ac Arloesi. Nodwch mae'r dogfennau ar gael yn Saesneg yn unig.
2025
- Pwyllgor Digidol, Data ac Arloesi Cyfarfod 7 Hydref 2025
- Pwyllgor Digidol, Data ac Arloesi Cyfarfod 22 Gorffennaf 2025
- Pwyllgor Digidol, Data ac Arloesi Cyfarfod 22 Ebrill 2025