Y Pwyllgor Archwilio sy’n cynghori ac yn sicrhau’r Bwrdd a’r Swyddog Atebol ar p’un ai a oes trefniadau effeithiol mewn lle, trwy gynllunio a gweithredu system sicrwydd y Bwrdd Iechyd Prifysgol, i’w cefnogi wrth wneud penderfyniadau ac wrth gyflawni eu hatebolrwydd er mwyn cyflawni amcanion y Bwrdd Iechyd Prifysgol yn unol â’r safonau llywodraethu da sydd wedi’u pennu ar gyfer GIG Cymru.
Mae’r Pwyllgor yn monitro, adolygu ac adrodd yn annibynnol i’r Bwrdd ar brosesau llywodraethu, a lle bo’n briodol, mae’n hwyluso a chefnogi, trwy ei annibyniaeth, cyflawni prosesau effeithiol.
Mae prif ddyletswyddau'r Pwyllgor yn cwmpasu'r canlynol:
- Adolygu sefydlu a chynnal system effeithiol o lywodraethu da, rheoli risg a rheolaeth fewnol ar draws holl weithgareddau'r sefydliad, yn glinigol ac yn anghlinigol.
- Ceisio sicrwydd bod y systemau ar gyfer adrodd ariannol i'r Bwrdd, gan gynnwys rhai rheolaeth gyllidebol, yn effeithiol, a bod prosesau a rheolaethau systemau ariannol yn gweithredu.
- Gweithio gyda Phwyllgorau eraill y Bwrdd, gan gynnwys y Cyd-bwyllgor Rhanbarthol, i sicrhau bod llywodraethu a risgiau yn rhan o fframwaith sicrwydd mewnol sy'n 'addas at y diben'.
- Derbyn sicrwydd ar gyflawni yn erbyn Amcanion Cynllunio perthnasol sydd wedi'u halinio â'r Pwyllgor yn unol ag amserlenni a gymeradwywyd gan y Bwrdd, fel y nodir yng Nghynllun Blynyddol y Bwrdd Iechyd.
- Derbyn sicrwydd ar gyflawni yn erbyn meysydd meini prawf uwchgyfeirio Llywodraeth Cymru, a'r elfennau gofynnol ar gyfer dad-ddwysáu, sy'n gysylltiedig â llywodraethu.
Mae manylion swyddogaeth lawn y Pwyllgor Archwilio i’w gweld yn y Cylch Gorchwyl Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (PDF, 680KB, agor mewn dolen newydd)
Cliciwch yma i weld cofnodion cyrfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg cymeradwy (agor mewn dolen newydd)
Cynhelir cyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ar y dyddiadau canlynol a gellir cael mynediad at y papurau trwy'r dolenni isod pan fyddant ar gael. Nodwch mae'r dogfennau ar gael yn Saesneg yn unig.
2026
- Cyfarfod Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg 10 Rhagfyr 2026
- Cyfarfod Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg 15 Hydref 2026
- Cyfarfod Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg 13 Awst 2026
- Cyfarfod Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg 23 Mehefin 2026
- Cyfarfod Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg 7 Mai 2026
- Cyfarfod Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg 14 Ebrill 2026
- Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Cyfarfod 10 Chwefror 2026 (agor mewn dolen newydd)
2025
2024
2023
2022
2021
2020
2019