Pwrpas y Pwyllgor Adnoddau Cynaliadwy yw:
- Rhoi sicrwydd ar berfformiad ariannol a chyflawni yn erbyn cynlluniau ac amcanion ariannol y Bwrdd Iechyd ac, ar reolaeth ariannol, rhoi rhybudd cynnar o faterion perfformiad posibl, gan wneud argymhellion ar gyfer gweithredu i wella sefyllfa ariannol y sefydliad yn barhaus, gan ganolbwyntio’n fanwl ar faterion penodol lle mae perfformiad ariannol yn dangos dirywiad neu lle mae meysydd pryder.
- Derbyn sicrwydd ynghylch cyflawni yn erbyn yr holl Amcanion Cynllunio perthnasol sy’n dod yn bennaf o dan Amcan Strategol 6 Defnydd Cynaliadwy o Adnoddau (Gweler Atodiad 1), yn unol ag amserlenni a gymeradwywyd gan y Bwrdd, fel y nodir yng Nghynllun Blynyddol BIPHDD.
- Archwilio a darparu goruchwyliaeth o ganlyniadau ariannol a refeniw cynllunio buddsoddiad (tymor byr ac mewn perthynas â chynaliadwyedd tymor hwy).
- Adolygu perfformiad ariannol, adolygu unrhyw feysydd sy’n peri pryder ariannol, ac adrodd i’r Bwrdd.
- Cynnal craffu manwl ar bob agwedd ar berfformiad ariannol, goblygiadau ariannol achosion busnes mawr, prosiectau, a phenderfyniadau buddsoddi arfaetheg ar ran y Bwrdd.
- Adolygu perfformiad cytundebol yn rheolaidd gyda phartneriaid cyflenwi allweddol.
- Ceisio sicrwydd ar reoli prif risgiau o fewn Fframwaith Sicrwydd y Bwrdd (BAF) a’r Gofrestr Risgiau Corfforaethol (CRR) a ddyrennir i’r Pwyllgor a rhoi sicrwydd i’r Bwrdd bod risgiau’n cael eu rheoli’n effeithiol ac adrodd am unrhyw feysydd sy’n peri pryder sylweddol e.e. lle mae goddefgarwch risg yn cael ei hepgor, diffyg gweithredu amserol.
- Argymell derbyn risgiau na ellir eu dwyn o fewn archwaeth / goddefgarwch risg y BIP trwy Adroddiad Diweddaru’r Pwyllgor.
- Derbyn sicrwydd trwy Adroddiadau Diweddaru Is-bwyllgorau ac adroddiadau grwpiau reoli eraill bod risgiau sy’n ymwneud â’u meysydd yn cael eu rheoli’n effeithiol ar draws holl weithgareddau’r Bwrdd Iechyd (gan gynnwys ar gyfer gwasanaethau a gynhelir a thrwy bartneriaethau a Chydbwyllgorau fel sy’n briodol.)
Mae manylion swyddogaeth lawn y Pwyllgor Adnoddau Cynaliadwy i’w gweld yn y Cylch Gorchwyl Pwyllgor Adnoddau Cynaliadwy (PDF, 914KB, agor mewn dolen newydd)
Cliciwch yma i weld cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Adnoddau Cynaliadwy cymerdawy (agor mewn dolen newydd)
Cliciwch isod i gael mynediad at papurau'r Pwyllgor Adnoddau Cynaliadwy. Nodwch mae'r dogfennau ar gael yn Saesneg yn unig.
2024
2023
2022
2021