Neidio i'r prif gynnwy

Pwyllgorau'r bwrdd

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi sefydlu ystod o bwyllgorau, wedi’u cadeirio gan Aelodau Bwrdd Annibynnol sydd â rôl allweddol mewn perthynas â’r Fframwaith Llywodraethu a Sicrwydd. Ar ran y Bwrdd, mae’r Pwyllgorau’n trafod, craffu, asesu risgiau cyfredol a monitro perfformiad mewn perthynas â sbectrwm eang o swyddogaethau, rolau a chyfrifoldebau’r Bwrdd Iechyd.

Mae pob un o’r pwyllgorau’n amlinellu risgiau allweddol, yn amlygu meysydd i’w datblygu, yn cynnal asesiad blynyddol o effeithiolrwydd ac yn llunio Adroddiad Blynyddol i’w gyflwyno i’r Bwrdd Iechyd.


Yn ogystal ag adrodd i'r Bwrdd, mae'r Pwyllgorau hefyd yn gweithio gyda'i gilydd ar ran y Bwrdd i sicrhau bod croes-adrodd ac ystyriaeth yn digwydd fel bod sicrwydd a chyngor yn cael eu darparu i'r Bwrdd a'r sefydliad ehangach.

Gellir gweld dyddiadau a lleoliadau’r cyfarfodydd cyhoeddus, ac agendâu, papurau a chofnodion cysylltiedig drwy’r ddolen ganlynol: Cyfarfodydd y bwrdd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru)

 

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am rôl pob pwyllgor isod.

 

Pwyllgorau blaenorol

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: