Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad preifatrwydd llawn

Gwybodaeth am Breifatrwydd

Mae hysbysiad preifatrwydd yn ddatganiad sy'n disgrifio sut y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn casglu, defnyddio, cadw a datgelu gwybodaeth bersonol. Weithiau mae sefydliadau gwahanol yn defnyddio termau gwahanol, a gellir ei alw'n ddatganiad preifatrwydd, hysbysiad prosesu teg neu bolisi preifatrwydd.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Rheolydd Data ac rydym yn gyfrifol am gasglu a phrosesu eich gwybodaeth bersonol.

Cofrestr y Rheolyddion Data (Saesneg yn unig, agor mewn dolen newydd)

Os oes gennych ymholiadau penodol ynghylch y data personol yr ydym yn eu prosesu, gallwch gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data trwy:

Ebost: dpo.hdd@wales.nhs.uk

Cyfeiriad: Adran Llywodraethu Gwybodaeth, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Yr Adeilad TG, Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Ffordd Caradog, Aberystwyth, SY23 1ER

Cwynion ac ymholiadau

Mae gennych hawl i gwyno am y modd yr ydym wedi prosesu eich gwybodaeth bersonol. I wneud hyn, cysylltwch â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff statudol sy'n goruchwylio'r gyfraith diogelu data trwy:

E-bost: caseworker@ico.org.uk
Rhif ffôn: 0303 123 1113
Post: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, SK9 5AF

Gallwch hefyd gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data trwy:

E-bost: dpo.hdd@wales.nhs.uk
Rhif ffôn: 01970 635442
Post: Y Swyddog Diogelu Data, Yr Adran Llywodraethu Gwybodaeth, Yr Adeilad TG, Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Ffordd Caradog, Aberystwyth, SY23 1ER

 

Nid yw ein hysbysiad preifatrwydd yn hollgynhwysol o ran pob agwedd ar y modd yr ydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, gallwn ddarparu unrhyw wybodaeth neu esboniadau ychwanegol sydd eu hangen. Cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data, sef prif bwynt cyswllt y sefydliad, ynghylch unrhyw ymholiadau mewn perthynas â'r modd yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: