Neidio i'r prif gynnwy

Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae’r adran hon ar ein gwefan yn esbonio pam y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn casglu gwybodaeth amdanoch a sut y gallai’r wybodaeth gael ei defnyddio. Mae hefyd yn sôn wrthych am eich hawl i weld eich cofnod iechyd a sut y gallwch wneud hynny.

Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Dîm Llywodraethu Gwybodaeth i’ch helpu gydag unrhyw bryderon neu gŵynion a allai fod gennych am y wybodaeth a gaiff ei chadw amdanoch.

Mae’r ddeddfwriaeth Diogelu Data yn mynnu ein bod yn penodi Swyddog Diogelu Data. Ein Swyddog Diogelu Data ni yw Patrycja Duszynska a’i chyfeiriad ebost yw dpo.hdd@wales.nhs.uk. Mae’r Swyddog Diogelu Data yn gyfrifol am oruchwylio ein strategaeth llywodraethu gwybodaeth a’r modd y caiff ei gweithredu, er mwyn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’r gyfraith sy’n ymwneud â chyfrinachedd a diogelu data, megis y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018.

Dan y ddeddfwriaeth, mae’n rhaid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ddarparu Hysbysiad Preifatrwydd sy’n egluro pam yr ydym yn casglu gwybodaeth amdanoch a sut y caiff y wybodaeth ei defnyddio. Mae hefyd yn rhoi manylion am eich hawliau, gan gynnwys sut mae gweld eich cofnod iechyd.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: