Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun blynyddol 2025-26

Mae gennym uchelgeisiau mawr ar gyfer y flwyddyn nesaf i gyflawni ein nodau hirdymor. Rydym am wella eich gwasanaethau GIG, ac mae ein Cynllun Blynyddol 2025/26 yn nodi ein cyfeiriad.

Mae'n uchelgeisiol ond yn pragmatig tra ein bod yn parhau i weithio o fewn cyfyngiadau ariannol. Mae'n manylu ar sut y byddwn yn delio'n uniongyrchol â heriau sylweddol heddiw wrth osod llwybr tuag at welliant tymor hwy a chadw ffocws ar wella ansawdd, arloesi a thrawsnewid gofal.

Mae'r cynllun yn amlinellu blaenoriaethau clir ac yn gosod targedau y gallwn eu mesur ar draws:

  • Gofal brys ac argyfwng;
  • Gofal wedi'i gynllunio, canser a diagnosteg (profion);
  • Iechyd meddwl;
  • Cadw a denu gweithlu sefydlog;
  • Adferiad ariannol.

Mae'r cynllun hefyd yn cyflwyno strwythur arweinyddiaeth newydd ein Grŵp Gofal Clinigol, gan osod y broses o wneud penderfyniadau yn agosach at gleifion a chlinigwyr.

Isod mae crynodeb o'n meysydd blaenoriaeth. Cliciwch yma i weld mwy o fanylion yn ein Cynllun Blynyddol cymeradwy ar gyfer 2025/26 (yn agor mewn dolen newydd).

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: