Neidio i'r prif gynnwy
Huw Thomas

Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Swyddfeydd Corfforaethol, Ail Lawr, Bloc C, Adeiladau'r Llywodraeth, Heol Picton, Caerfyrddin, SA31 3BT

01267 235151

huw.thomas6@wales.nhs.uk

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid

Fi yw Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gyda chyfrifoldeb am ddigidol a pherfformiad.

Yr wyf yn dod o Bontsian, gerllaw Llandysul ; yn dychwelyd adref i weithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar ôl cael profiad mewn nifer o wahanol sectorau a lleoliadau ar draws y DU. Fel rhywun sy’n cael y fraint o weithio lle cefais fy magu fel plentyn, rwy’n angerddol am y gwahaniaeth y dylem ei wneud i’n cymunedau lleol drwy ganolbwyntio ar y canlyniadau sydd o bwys i’r rhai yr ydym yn eu gwasanaethu.

Yn fy ngyrfa gynnar, bûm yn gweithio i PricewaterhouseCoopers LLP yn Llundain, Bryste a Chaerdydd. I ddechrau, roedd fy nghleientiaid yn y sector bancio cyn i mi symud ymlaen i arbenigo ar gleientiaid y GIG, awdurdodau lleol a thrydydd sector. Gweithiais i'r GIG yn Lloegr cyn symud yn ôl i Gymru.

Rwy'n aelod o Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yr Alban ac wedi gwasanaethu ar eu Cyngor Llywodraethu. Rwyf hefyd wedi bod yn ymddiriedolwr y Gymdeithas Rheolaeth Ariannol Gofal Iechyd ac wedi gwasanaethu fel cadeirydd eu cangen yng Nghymru. Ar hyn o bryd rwy'n Ymddiriedolwr y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol ac mae'n fraint cael rôl Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: