Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnwys Cyfarwyddwyr Gweithredol sy’n cael eu cyflogi gan y Bwrdd Iechyd Prifysgol, ac Aelodau Bwrdd Annibynnol a benodir i’r Bwrdd gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol drwy broses penodiadau cyhoeddus agored a chystadleuol.
Daw aelodau’r Bwrdd o amrywiaeth o gefndiroedd, disgyblaethau a meysydd arbenigedd gan ddarparu arweinyddiaeth a chyfeiriad i’r sefydliad. Mae’r Bwrdd yn gyfrifol am system lywodraethu a rheolaeth gyffredinol y Bwrdd Iechyd, sy’n cynnwys rheoli risg cadarn, ac felly mae’n rhaid iddo geisio a chael sicrwydd ynghylch effeithiolrwydd y systemau a’r prosesau sydd ar waith i gyflawni amcanion strategol a chynllunio’r Bwrdd Iechyd.
Mae gan y Bwrdd rôl allweddol o ran sicrhau bod gan y Bwrdd Iechyd drefniadau llywodraethu da ar waith a’i fod yn agored ac yn dryloyw yn y ffordd y mae’n gweithio. Mae'r Bwrdd yn cyfarfod o leiaf bob deufis, mewn sesiwn gyhoeddus. Caiff ei gefnogi yn y broses gwneud penderfyniadau gan strwythur o Bwyllgorau a Grwpiau Cynghori. Mae dyddiadau a lleoliadau’r cyfarfodydd cyhoeddus, ac agendâu, papurau a chofnodion cysylltiedig ar gael isod.
Mae agenda, papurau a chofnodion y Pwyllgorau unigol i'w gweld ar dudalen we Pwyllgorau'r Bwrdd
Cyrchwch wybodaeth gyswllt am aelodau ein bwrdd a'r dyddiadau, amseroedd a phapurau ar gyfer ein cyfarfodydd bwrdd yma.
Cliciwch yma i gyrchu papurau bwrdd blaenorol 2009-2019 o'r wefan Archifedig